DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Ymgynghoriad ar newidiadau i’r broses Gweithio i Wella a diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011

DYDDIAD

12 Chwefror 2024

GAN

Eluned Morgan, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Rwy’n cyhoeddi cychwyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar 12 Chwefror, er mwyn:

·         gwrando ar ddinasyddion Cymru a rhanddeiliaid eraill am eu profiad wrth godi cwynion am ofal GIG a

·         gofyn am eu hadborth am rai newidiadau yr ydym yn eu cynnig i’r broses bresennol.

 

Sefydlwyd y broses Gweithio i Wella o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011. Mae’n rhoi un broses i bobl godi pryder neu gwyn am wasanaethau GIG Cymru. Mae hefyd yn gosod y broses am ystyried a chynnig iawn pan achosir niwed mewn cysylltiad â’r gofal hwnnw.

 

Buom yn gwrando yn ofalus dros y blynyddoedd diwethaf i brofiadau’r rhai â phrofiad o ofal yn y GIG; y rhai sy’n gyfrifol am ei ddarparu; y rhai sy wedi codi pryderon am eu gofal a sut y’u triniwyd, a’r rhai sy’n darparu cyngor cyfreithiol a sy’n datrys yr achosion hyn.

 

Mae eisiau rhywfaint o adolygu a moderneiddio ar y rheoliadau, a luniwyd dros ddegawd yn ôl, er mwyn eu diweddaru yn unol ag arfer cyfredol. Mae’r canllawiau manwl, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011 i helpu’r system ymwreiddio, yn hirfaith a byddent hefyd yn elwa o gael eu hailwampio, eu symleiddio a’u gwneud yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.

 

Daw’r ymgynghoriad â nifer o wersi allweddol at ei gilydd, sy’n deillio o wrando ar y cyhoedd a darparwyr gofal. Mae’n gosod newidiadau polisi arfaethedig a’r nod o:

·         osod pobl wrth galon y broses

·         darparu ffocws gwell ar gyfathrebu tosturiol sy’n canolbwyntio ar y claf

·         gwella’r broses Gweithio i Wella i fod yn fwy cynhwysol

·         cynnwys prosesau uwchgyfeirio am bryderon brys am gam-drin bwriadol neu niwed oherwydd gofal, neu ar ôl i rywun farw

·         ailwampio’r trefniadau i ddarparu cyngor cyfreithiol ac adroddiadau arbenigwyr meddygol am ddim

 

Mae’r newidiadau hyn yn adeiladu ar y Dyletswyddau Gonestrwydd ac Ansawdd a weithredwyd ym 2023 a Fframwaith Codi Llais Heb Ofn, y mae pob un yn cefnogi ein hymrwymiad i ddiwylliant o fod yn agored, bod yn dryloyw, a chael mwy o atebolrwydd yn GIG Cymru. Mae’r newidiadau arfaethedig yn ffocysu ar sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd yn gwrando yn weithgar ac yn dysgu oddi wrth gleifion a’u teuluoedd er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gofal.

 

Bydd yr ymgynghoriad ar gael o 12 Chwefror tan 6 Mai 2024.

 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.